Dyma gwrs ar gyfer y bobl hynny nad ydynt erioed wedi defnyddio cyfrifiadur o’r blaen, ond a hoffai roi cynnig arni. Nod y cwrs yw meithrin rhai o’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i ddechrau defnyddio cyfrifiadur a llechen. Mae’n gwrs i ddechreuwyr pur sydd am ddysgu wrth eu pwysau mewn awyrgylch cyfeillgar, ymlaciol. Achrediad ar gael.
Galluogi dysgwyr i weithio a chyfathrebu ar-lein mewn modd diogel a chyfrifol gydag ymwybyddiaeth o’u hôl-troed digidol personol. Rhyngweithio’n ddiogel ar-lein, dysgu sut i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a defnyddio diogelwch cyffredinol i ddiogelu eich dyfeisiau digidol a’ch gwybodaeth.
Cwrs byr yw hwn a fydd yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i greu tudalennau ar gyfer llyfr lloffion digidol a sut i gadw ac argraffu’r gwaith. Bydd yn cynnwys defnyddio ffotograffau, testun ac addurniadau i ddod a'ch tudalennau'n fyw er mwyn creu atgofion arbennig.
Short course covering some top tips on how to keep safe online.
Bydd y cwrs hwn yn trin a thrafod sut i gychwyn arni â’r llechen, sut i lawrlwytho a defnyddio apiau, llyfrau, gemau, pori’r we, gwirio ac ysgrifennu negeseuon e-bost. Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu sut i warchod preifatrwydd a nodweddion diogelu eraill.

Cyflwyniad i Windows 11; datblygu sgiliau rheoli ffeiliau gan ddefnyddio'r adnoddau newydd sydd ar gael yn Windows 11; rheoli a gweld lluniau yn Windows 11; ymgyfarwyddo â rhai o'r apiau sydd wedi'u cynnwys yn Windows 11

Digital Skills learners on ECDL and Microsoft Office Skills are added to this course automatically through the interface and so the course ID number is required.