"Mae Springboard wedi cael effaith enfawr"
Cyn i fi ddechrau gyda Springboard, roeddwn i’n dioddef o orbryder ac yn sownd yn y tŷ – yn cloi fy hun rhag y byd.
Diolch i’r holl wahanol gyrsiau oedolion a theulu dw i wedi eu cyflawni gyda Springboard, dw i wedi magu’r hyder i siarad â phobl eraill, gwneud pethau newydd a hyd yn oed perfformio’n gyhoeddus gyda’r Côr Cymunedol lleol.
Dw i bellach yn astudio gradd sylfaen mewn Addysg Gynhwysol gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gwirfoddoli fel cynorthwyydd dosbarth mewn ysgol leol.
Fyddwn i erioed wedi dychmygu y byddai hyn yn bosibl ychydig o flynyddoedd yn ôl!
Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma