• Haidar Shaar

    • Haidar Shaar

      Anelu'n uchel!

      Mae Haidar yn Syriaidd ifanc a ddaeth i Sir Benfro gyda'i deulu ym mis Mawrth 2017. Gan wybod ychydig iawn am y Saesneg ar y pryd, cynigiwyd dosbarthiadau Saesneg i Haidar trwy Sir Benfro yn Dysgu a mynychodd ddosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Mae dosbarthiadau ESOL wedi cefnogi Haidar yn ei astudiaethau, wedi'i helpu i wneud ffrindiau newydd a chael gwaith mewn tŷ bwyta Indiaidd lle mae'n ymarfer ei Saesneg gyda'r cwsmeriaid a'r staff.

      Ers iddo ddechrau mynychu'r gwersi, mae Haidar wedi'i annog i wneud defnydd da o'r Saesneg. Mae wedi pasio ei brawf gyrru ac wedi ennill tystysgrif mewn Diogelwch Bwyd a Hylendid. Gwelodd Haidar gyfle i gynhyrchu a gwerthu bwyd traddodiadol o Syria i deuluoedd lleol ac mae'n parhau i wneud hynny trwy ei stondin farchnad.  Ar ei stondin, caiff Haidar y cyfle i gryfhau ei sgiliau Saesneg a chynilo er mwyn ariannu ei addysg bellach a'i weledigaeth ar gyfer ei ddyfodol. Yn 2018, aeth Haidar ymlaen i astudio amser llawn yng Ngholeg Sir Benfro lle mae'n astudio peirianneg fecanyddol. Ei freuddwyd yw dod yn beilot.

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma