• Carol Mayled

    • Carol Mayled

      Er fy mod wedi bod yn gweithio fel cynghorydd Sbardun am 9 blynedd, nid oedd gennyf unrhyw gymwysterau ffurfiol. 

      Dilynais gwrs TGAU Saesneg gyda Sir Benfro yn Dysgu i gefnogi fy merch yn bennaf a oedd am wella ei gradd Saesneg. Roedd meddwl am ddychwelyd i ddysgu ffurfiol ar ôl yr holl amser yn ddychryn imi. Rhai nosweithiau, roedd yn anodd i'r ddwy ohonom ruthro adref o'r gwaith er mwyn cyrraedd y dosbarth.  

      Roedd Lucy, y tiwtor, yn ffantastig, gwnaeth inni i gyd deimlo'n gartrefol ac roedd hi'n amyneddgar iawn, yn enwedig a minnau'n gofyn yr un cwestiynau dro ar ôl tro!  Roedd hi'n rhoi'r cymhelliant inni ddal ati ac rwy'n falch fy mod wedi dyfalbarhau ac rwy'n falch o gael dweud bod fy merch a minnau wedi cyflawni ein nodau.  

      Ar ôl y profiad cadarnhaol hwn ac ennill gradd B, rwyf wedi penderfynu parhau gyda'm dysgu ac ar hyn o bryd, rwy'n gweithio tuag at NVQ Lefel 4 mewn Cyngor a Chyfarwyddyd a fydd yn fy helpu i gefnogi dysgwyr Sbardun ymhellach.

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma