Fy enw i yw Beverley Thomas ac rwy’n ffotograffydd proffesiynol hunangyflogedig cymwysedig. Rwy'n arbenigo mewn ffotograffiaeth briodas, portreadau, eiddo a theganau.
Yn 2013 cefais gynnig i addysgu ffotograffiaeth gyda Sbardun ac yna Dysgu Sir Benfro. Fel tiwtor Sbardun, dwi wedi datblygu sawl prosiect deniadol, o recordio ymdeimlad o le i edrych ar newid yn yr hinsawdd a'i heffaith ar ein harfordiroedd.
Mae'r lluniau mae dysgwyr Sbardun wedi'u tynnu ar fy nghyrsiau wedi cael eu harddangos mewn nifer o leoliadau ledled Sir Benfro ac mae gwerthiannau’r lluniau wedi galluogi Sbardun i brynu cit cyfan o gamerâu newydd ar gyfer myfyrwyr.
Yn 2018 roeddwn yn rhan o brosiect arbennig o'r enw Gwobr John Muir i gael dysgwyr i Ddarganfod, Gwarchod, Chwilota a Rhannu ein tiroedd gwych a chofnodi eu teithiau ar gamera.
Ers dechrau gweithio gyda Sbardun, rwyf wedi bod ar daith dysgu fy hun. Yn ogystal â fy ngalluogi i gael fy Ngwobr John Muir fy hun, mae Sbardun hefyd wedi fy ysbrydoli i gwblhau fy BA Anrhydedd, cyflawni fy ngradd Meistr ac ennill fy Nhystysgrif Marchnata Digidol Proffesiynol.
Gyda Sbardun, does wybod yn y byd i le y bydd gweithgaredd dysgu yn arwain.
Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma