• Abby Williams

    • Abby Williams

      {"Rhoddais fy ffydd yn Springboard"

      Ar ôl 10 mlynedd o iechyd gwael a bod yn wraig tŷ, roedd fy mywyd yn cylchdroi o gwmpas fy mab. Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint ohonof i fy hun roeddwn i wedi ei golli.

      Anogodd Springboard fi i gyflawni cyrsiau a rhoi cyfle i fi wirfoddoli yn fy mhwysau fy hun – datblygodd hyn fy hunanwerth.

      Heb help Springboard, fyddwn i ddim wedi magu digon o hyder i wella fy nghymwysterau a mynd i mewn i’r farchnad swyddi.

      Rhoddodd Springboard fi mewn cysylltiad â Gweithffyrdd a drefnodd i fi gael profiad gwaith am 5 mis gyda Chyngor Sir Benfro. Dw i wrth fy modd bod gennyf bellach gytundeb dros dro gyda Chyngor Sir Benfro a dw i’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at swydd barhaol.

      Mae fy nyled yn fawr i gefnogaeth ac anogaeth Springboard a Gweithffyrdd. Rhowch eich ffydd ynddyn nhw a byddan nhw’n rhoi’r sbardun i chi lwyddo – dw i mor falch fy mod i wedi gwneud!

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma