• Rose Gray

    • Rose Gray

      "Mae Springboard wedi newid fy mywyd"

      Cyn ymuno â chyrsiau Springboard, fyddwn i ddim wedi dychmygu gallu cael fy swydd ddelfrydol. Pan ddechreuais gymryd rhan yng nghyrsiau Springboard, doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un; roeddwn i’n newydd i’r ardal ac wedi gorfod canolbwyntio ar fy 3 plentyn oedd o dan 4 oed.

      Helpodd Springboard fi i gofio fy mod wrth fy modd yn dysgu ac i deimlo’n rhan o’r gymuned! Tyfodd fy hyder gyda phob dosbarth. Ac ar ôl gwirfoddoli i Springboard, cefais fy ethol yn Gynghorydd Tref a Maer Aberdaugleddau. Nawr, ar ôl 13 mlynedd heb waith â thâl, dw i’n cael fy nghyflogi fel Swyddog Datblygu Cymunedol Hubberston a Hakin.

      Mae Springboard wedi newid fy mywyd. Mae Springboard wedi rhoi i mi yr hyn sydd angen arnaf i newid fy mywyd.

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma