• Rebecca Singh

    • Rebecca Singh

      Am flynyddoedd, bûm a'm bryd ar fod yn nyrs ond o dderbyn rhan helaeth o'm haddysg dramor, nid oedd gennyf y graddau disgwyliedig felly roeddwn yn meddwl bod y swydd tu hwnt i'm gallu. Wrth weithio fel gofalwr, awgrymodd rhywun imi ymuno â Sir Benfro yn Dysgu a fyth ers ymuno, nid wyf wedi edrych yn ôl.

      Roedd y lleoliad yn ddelfrydol ac roeddwn yn gallu dilyn y cyrsiau mewn modd nad oedd yn amharu ar fy mywyd teuluol a gwaith. Roedd pawb yn Sir Benfro yn Dysgu yn groesawgar, a John, y tiwtor mathemateg yn wych. Roedd yn amyneddgar iawn ac yn gwneud y gwaith yn hwyliog a diddorol. Dyna'n union sydd ei angen arnoch pan nad ydych yn dda gyda mathemateg!

      Rwy'n fwy hyderus nawr ac ers ennill graddau TGAU mewn mathemateg a Saesneg gyda Sir Benfro yn Dysgu, rwy'n dilyn y cwrs Mynediad at Ofal Iechyd yn y coleg; a'r cam nesaf yw gwneud cais i astudio nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe. 

      Heb y cymorth gan Sir Benfro yn Dysgu, ni fyddwn yn y coleg ar hyn o bryd. Rwyf wedi ysu am gael bod yn nyrs ers bron i 20 mlynedd ac mae Sir Benfro yn Dysgu wedi agor y drysau hyn ac rwyf bellach gam yn nes at wireddu fy mreuddwyd!

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma