• Rachel Owens

    • Rachel Owens

      ”Heb Springboard, fyddwn i ddim yn gwneud y swydd dw i’n ei gwneud nawr”

      Mae treulio 10 mlynedd gartref fel mam lawn-amser yn gallu bod yn eithaf anodd. Mae’n hawdd colli eich hun. Bu Springboard yn achubiaeth sawl gwaith ac roedd yn rhywbeth i edrych ymlaen ato. Wrth i mi gwblhau cyrsiau achrededig fel Gofal Plant, Cymorth Cyntaf a ECDL, magais fwy o hyder a chefais fy ysbrydoli i ystyried addysg bellach. Wrth i mi ddatblygu’r gred a’r hyder y gallwn fynd ymhellach, dechreuais wirfoddoli gyda Springboard ac yna gydag ysgol fy mhlentyn. Ar yr un pryd, enillais gymhwyster Lefel 3 mewn Cymorth Addysgu a Dysgu ar-lein a roddodd i mi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol oedd angen arnaf i gael swydd â thâl.

      Erbyn hyn, dw i’n gweithio’n llawn-amser yn Ysgol Gelliswick fel Cynorthwy-ydd Dosbarth Lefel 3.

      Prin y gallaf gredu’r peth, a dweud y gwir! Dw i’n teimlo fel fy mod yn gwneud rhywbeth gwerthfawr dros ben.

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma