• Rachel Mayled

    • Rachel Mayled

      Gan fy mod yn gweithio mewn meithrinfa, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig meddu ar radd dda mewn TGAU Saesneg felly, ar ôl cael fy annog gan fy mam, sy'n gweithio i Sbardun, penderfynais ymuno â dosbarth TGAU Saesneg Sir Benfro yn Dysgu.

      Er fy mod yn poeni ar y dechrau, cefais groeso cynnes gan Lucy, y tiwtor Saesneg.

      Weithiau, roedd hi'n anodd mynd yn syth o'r gwaith ar ôl oriau hir i'r dosbarth Saesneg, ond roedd Lucy yn wych ac rwy'n falch fy mod wedi dal ati. Rwy'n falch iawn o ennill fy ngradd C nawr.

      Rwyf bellach yn gweithio tuag ar fy nghymhwyster lefel 3 mewn gofal plant ac ar ôl fy mhrofiad cadarnhaol ar fy nghwrs TGAU Saesneg, mae wedi annog imi barhau i ddysgu ac rwy'n meddwl ymgymryd â chymhwyster iaith arwyddion nesaf.

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma