"Ailgysylltodd Springboard fi â breuddwyd fy mhlentyndod"
Mae Springboard wedi fy helpu i benderfynu beth i’w wneud yn y dyfodol.
Cyn ymuno â chyrsiau Springboard, roeddwn i wedi treulio pedair blynedd yn magu fy mhlant a dim byd arall. Doeddwn i’n gwneud dim i fi fy hun. Ar ôl rhoi cynnig ar ambell weithdy gyda Springboard, penderfynais ymuno â’u cyrsiau achrededig mewn Gwaith Chwarae a Chynorthwyo mewn Dosbarth a dechreuais wirfoddoli mewn meithrinfa.
Ysbrydolodd fy mhrofiad gyda Springboard fi i ymuno â chwrs Lefel 2 mewn Gofal Plant, Dysgu a Datblygu gyda’r coleg a chwblhau dau brofiad gwaith gwirfoddol arall i gael y 15 awr o brofiad gwaith oedd eu hangen bob wythnos i gwblhau’r cwrs.
Fel plentyn, roeddwn wastad wedi bod eisiau gweithio gyda phlant. Mae Springboard wedi fy helpu i ailgysylltu â breuddwyd fy mhlentyndod.
Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma