• Patrick Roche

    • Patrick Roche

      Mae dyfodol imi bellach!

      Roeddwn yn ddi-waith a phrin oedd fy sgiliau TG. Gwnaeth hyn imi deimlo fy mod yn cael fy ngadael ar ôl ac roeddwn am wneud newid yn fy mywyd yn gyffredinol.

      Clywais am y prosiect Cynhwysiant Gweithredol yr oedd Sir Benfro yn Dysgu yn rhan ohono. Nod y prosiect hwn oedd ymgysylltu â dysgwyr ac annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd.Roeddwn yn nerfus iawn pan ddechreuais ddilyn cwrs cyfrifiadurol ac er gwaethaf newidiadau mewn lleoliadau yn ardal Aberdaugleddau, parheais i gerdded i bob gwers ac un wers yn unig a gollais oherwydd salwch. Enillais ECDL (Trwydded Yrru Cyfrifiaduron Ewropeaidd) Lefel 1 mewn Word, Excel a PowerPoint ac es ymlaen i ennill ECDL Lefel 2 mewn Word a PowerPoint.

      Rwyf bellach yn teimlo bod gennyf fwy o hunanhyder a bod dyfodol imi. Dywed ei diwtor, Jenny: "Mae taith ddysgu Patrick wedi bod yn rhyfeddol ac mae ei ddyfalbarhad a'i ymrwymiad at ddysgu wedi bod yn ysbrydoledig."

      Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma