Yn 2014 ro’n i’n ffodus iawn i gael cyfle i fynychu cwrs i wella fy Nghymraeg. Roedd y tiwtor yn ysbrydoledig iawn ac awgrymodd hi i fi wneud cais am swydd fel tiwtor Cymraeg i Oedolion a dyna ddechrau fy nhaith i gyda Sir Benfro’n Dysgu.
Ers hynny dw i wedi mwynhau cwrdd ag oedolion o oedrannau ,galluoedd dysgu a chefndiroedd gwahanol. Mae’n rhoi llawer o bleser i fi allu helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg ac eu hymdrochi nhw yn ein diwylliant. Dw i’n teimlo bod ein profiadau dysgu yn cryfhau ein cymunedau ac yn creu ymdeimlad o berthyn. Mae digon o hwyl a chwerthin ar y daith, sydd yn ategu at y dysgu- yn fy marn i. Felly ymunwch â ni a dechreuwch eich taith chi gyda ni heddiw!
Os ydych chi am rannu'ch Stori Llwyddiant gyda ni, cliciwch yma