O fis Medi 2020, mae’r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno ar-lein, felly’n rhoi hawl i’n dysgwyr dderbyn gostyngiad o 25% oddi ar brisiau ein cyrsiau.
Bwriad y cwrs dechreuol hwn yw datblygu sgiliau iaith sylfaenol cyntaf siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu Eidaleg. Byddwn yn defnyddio’r gwerslyfr Nuovo Espresso ac adnoddau ar-lein. Bydd y cwrs yn cwmpasu cyfarchion, cyflwyniadau, archebu bwyd a diod, gweithgareddau hamdden, hoff bethau a chas bethau, ac ati.
Amcan y cwrs hwn yw parhau i ddatblygu sgiliau iaith a gwella’ch rhugledd a’ch dealltwriaeth mewn awyrgylch agored a chyfeillgar. Dylai myfyrwyr fod wedi astudio’r iaith am o leiaf 5-6 mlynedd.