Nod y cwrs hwn yw rhoi i fyfyrwyr ddealltwreiaeth sylfaenol o strwythur yr iaith ac i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd bob dydd mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer rheiny â dim ond gwybodaeth brin neu ddim o gwbl o’r iaith
Nod y cwrs hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o’r iaith Ffrangeg a’u galluogi i ymdopi’n hyderus ag ystod o sefyllfaoedd ac i sgwrsio am amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys y gorffennol a’r dyfodol. Dylai myfyrwyr fod wedi dilyn cwrs ar lefel rhagarweiniol neu fod â rhywfaint o brofiad o astudio/siarad yr iaith
Mae’r cwrs lefel canolog hwn wedi ei fwriadu ar gyfer y rheiny sydd â gwybodaeth sylfaenol gadarn o’r iaith. Datblygwch fwy ar eich sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio ystod o amserau, gramadeg a geirfa. Dylai myfyrwyr fod wedi cwblhau cwrs ar lefel rhagarweiniol neu fod â 1 - 2 flynedd o brofiad o astudio’r iaith
Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer y rheiny sydd wedi astudio’r iaith am 2-3 blynedd ac sy’n dymuno ymarfer eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu ar lefel uwch
Amcan y cwrs hwn yw datblygu ymhellach sgiliau iaith drwy astudio gramadeg uwch, testunau cyfoes a recordiadau ac agweddau ar ddiwylliant modern. Byddwch yn gwella’ch rhugledd a’ch dealltwriaeth mewn awyrgylch agored a chyfeillgar. Dylai myfyrwyr fod wedi astudio’r iaith am o leiaf 3-4 blynedd.
Nod y cwrs hwn yw datblygu mwy ar sgiliau ieithyddol drwy astudio gramadeg uwch, testunau cyfoes a recordiadau ac agweddau o ddiwylliant modern. Cewch ddod yn fwy rhugl a gwella’ch dealltwriaeth mewn awyrgylch agored a chyfeillgar. Dylai myfyrwyr fod wedi astudio’r iaith am o leiaf 3-4 blynedd.